Click here for the Local Well-being Plan Draft in English and in Welsh

Dear Colleague

Please see the information below in English for the consultation of the Neath Port Talbot Public Services Board Draft Local Well-being Plan.  Please note that the consultation can be provided in different formats if required, by contacting Sharon Roberts on sharon.roberts@nptcgroup.ac.uk.  

Please find below a letter to you from Cllr Rob Jones, the Leader of Neath Port Talbot County Borough Council and Chair of the Neath Port Talbot Public Services Board:

As Chair of the Neath Port Talbot Public Services Board I would like to invite you to participate in the consultation on the Board’s draft Well-being Plan as a statutory consultee listed in S43(1) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015.

The Neath Port Talbot Public Services Board brings together public, private and third sector organisations to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Neath Port Talbot.

In May 2017, the Board published a well-being assessment which was informed by extensive engagement and survey work with residents and stakeholders, and consideration of relevant information such as existing data, evidence and research.  The assessment captures the strengths and assets of people and communities across Neath and Port Talbot and describes the challenges and opportunities Neath Port Talbot faces now and in the future in terms of improving social, economic, environmental and cultural well-being of Neath Port Talbot. This assessment has now informed the draft priorities the Public Services Board proposes to focus on to improve well-being and we would very much appreciate your views on whether you think these are the right things to focus on. 

A copy of the draft Well-being Plan is attached to this email. The consultation survey and more information about the Neath Port Talbot Public Services Board (PSB) can be found here https://www.npt.gov.uk/5808?lang=en-gb

The consultation will close on Thursday 1st February 2018 and the outcomes of the consultation will be used to inform the final Well-being Plan which will be published by the Neath Port Talbot Public Services Board before May 2018.

Yours faithfully,

 Cllr R G Jones                                                                

Leader of Council                        

                                   

Annwyl Gyd-weithiwr

Gweler yr wybodaeth isod yn Gymraeg ar gyfer yr ymgynghoriad ar Gynllun Lles Lleol Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot.  Sylwch os gwelwch yn dda fod yr ymgynghoriad ar gael mewn fformatau eraill fel y bo’r angen  - cysylltwch â Sharon Roberts: sharon.roberts@nptcgroup.ac.uk.

Gweler isod lythyr atoch oddi wrth y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot:

Fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot, hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar Gynllun Lles Drafft y Bwrdd fel ymgynghorai statudol a nodir o dan A43(1) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot yn dod â sefydliadau'r trydydd sector, y sector preifat a'r sector cyhoeddus ynghyd er mwyn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Castell-nedd Port Talbot.

Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd y Bwrdd asesiad o les a luniwyd ar sail gwaith cynnwys ac holi helaeth gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid ac ystyriaeth o wybodaeth berthnasol, megis data, tystiolaeth ac ymchwil sydd eisoes gennym.  Mae'r asesiad yn nodi cryfderau ac asedau pobl a chymunedau ar draws Castell-nedd a Phort Talbot, gan ddisgrifio'r heriau sy'n wynebu Castell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd ond hefyd y cyfleoedd a geir yn y dyfodol o ran gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r asesiad hwn bellach wedi dylanwadu ar y blaenoriaethau drafft y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awgrymu y dylid canolbwyntio arnynt er mwyn gwella lles, a byddem yn ddiolchgar iawni gael eich barn ar briodoldeb y blaenoriaethau hyn.

Gweler ynghlwm gopi o'r Cynllun Lles Drafft. Ceir arolwg yr ymgynghoriad a mwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot (BGC) yma

https://www.npt.gov.uk/5808?lang=cy-gb

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau, 1 Chwefror 2018 a chaiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu defnyddio i lywio'r Cynllun Lles terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot cyn mis Mai 2018.

Yr eiddoch yn gywir,

Y Cynghorydd R G Jones                                                                           

Arweinydd y Cyngor                                       

最后修改: 2017年12月18日 星期一 10:49