ANGEN GWIRFODDOLWYR

 

Os ydych yn 18 oed a throsodd ac yn ymddiddori mewn gwirfoddoli, yna efallai y bydd y cyfle hwn yn addas i chi!

 

Mae Housing Justice Cymru a gynhaliodd Loches Nos y Gaeaf yn llwyddiannus yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gynharach eleni ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd, yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu.

Oherwydd llwyddiant y lloches nos, byddant yn cynnal y lloches unwaith eto rhwng Rhagfyr 2019 a Mawrth 2020.

 

Gan fod y lloches nos yn dibynnu ar wirfoddolwyr, maent yn dechrau recriwtio gwirfoddolwyr nawr, yn barod am y sesiynau hyfforddi fel a ganlyn:

 

10 Hydref – 6-8pm – Canolfan St. Paul, Port Talbot, Stryd Gerald, Port Talbot, SA12 6DQ

17 Hydref – 6-8pm – Canolfan St. Paul, Port Talbot, Stryd Gerald, Port Talbot, SA12 6DQ

18 Hydref – 6-8pm – Neuadd yr Eglwys Fethodistaidd Sgiwen, 92 Heol Newydd, Sgiwen, Castell-nedd SA10 6HG

 

Nodwch fod angen i wirfoddolwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.  Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at h.grist@housingjustice.org.uk.

 

 

VOLUNTEERS NEEDED

 

If you are aged 18 and over and interested in volunteering, then this opportunity may be for you!

 

Housing Justice Cymru, who successfully ran a Winter Night Shelter in Neath Port Talbot earlier this year for people who sleep rough, are looking for volunteers to help.

Due to the success of the night shelter, they will be running the shelter again from December 2019 – March 2020.

 

As the night shelter is dependent on volunteers, they are starting to recruit volunteers now, ready for the training sessions as follows:

 

10th October – 6-8pm – St Paul’s Centre, Port Talbot, Gerald St, Port Talbot, SA12 6DQ

17th October – 6-8pm – St Paul’s Centre, Port Talbot, Gerald St, Port Talbot, SA12 6DQ

18th October – 6-8pm - Skewen Methodist Church Hall, 92 New Rd, Skewen, Neath SA10 6HG

 

Please note that volunteers need to be 18 years or older.  If interested,  please email h.grist@housingjustice.org.uk.

 

 

最後修改: 2019年 10月 11日(週五) 13:27