ESW - Sgiliau Hanfodol Cymru

Sgiliau Hanfodol Cymru yw’r gyfres newydd o gymwysterau sgiliau a fydd yn disodli Sgiliau Allweddol presennol Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh, a Sgiliau Sylfaenol Llythrennedd Oedolion, Rhifedd Oedolion a Sgiliau am Oes TGCh.

Gweithredir y gyfres newydd hon o gymwysterau sgiliau o fis Medi 2010 ymlaen. O’r dyddiad hwnnw, ni fydd Sgiliau Allweddol na Sgiliau Sylfaenol bellach ar gael yng Nghymru.

Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn gyfres o sgiliau sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri gwahanol gymhwyster sgiliau. Maes o law, ac yn dilyn adolygu, bydd y gyfres hefyd yn cynnwys y Sgiliau Allweddol Ehangach presennol sef Gwella’ch Dysgu a’ch Perfformiad eich Hun, Gweithio gydag Eraill a Datrys Problemau. Mae cymwysterau ar gael o lefel mynediad 1 hyd at lefel 4 mewn:

Cyfathrebu;

Cymhwyso Rhif; a

Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Ar lefel mynediad, penderfynir ar natur yr asesiad ar gyfer y cymwysterau gan y corff dyfarnu sy’n darparu’r cymhwyster. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r asesiad fodloni canlyniadau’r asesiad. Ar gyfer lefelau 1 i4, asesir y cymwysterau trwy bortffolio o dystiolaeth.

Mae pob lefel o’r sgiliau yn ymgorffori’r lefelau blaenorol ac yn adeiladu arnyn nhw, felly ar gyfer pob sgil, mae’n bosibl gweld y safonau unigol yn ogystal â gridiau dilyniant.

最后修改: 2010年10月20日 星期三 14:46