Course: Corona Virus | Grŵp NPTC Group Moodle

  • 1

    Advice on the Coronavius - Easy Read

    FAQ Coronavirus for Students: See below the statement

    Annwyl Myfyriwr

    I leihau unrhyw bryderon a allai fod gennych ynglŷn â’r Coronafirws, cyfeiriwch at y cwestiynau cyffredin atodedig (FAQ) am arweiniad ar hunan-ynysu, absenoldeb oherwydd salwch a sut i gofnodi absenoldeb yn unol â pholisïau a gweithdrefnau presennol y Coleg ar gyfer ein myfyrwyr.    

    Byddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth ychwanegol â chi os bydd newid sylweddol yn argymhellion y Llywodraeth. 

    Os oes gennych unrhyw bryderon penodol sy'n ymwneud â salwch a thaliadau LCA/GDLlC, cysylltwch â studentsupport@nptcgroup.ac.uk

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chanllawiau hunan-ynysu, cyfeiriwch at yr wybodaeth a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Yn gywir

    Siân C Jones

    Pennaeth Cynorthwyol Myfyrwyr

     

    Dear Student

    To reduce any worries you may have about the Coronavirus, please refer to the attached Frequently Asked Questions (FAQ) for guidance on self-isolation, sickness absence and notifying the College in line with the existing student policies and procedures.    

    Further information will be shared with you if there is a significant change to Government recommendations. 

    If you have any specific concerns relating to sickness and EMA / WGLG payments, please contact studentsupport@nptcgroup.ac.uk

    If you have any queries relating to guidance on self-isolation please refer to the Public Heath Wales information.

    Yours sincerely

    Siân C Jones

    Assistant Principal Students

     

     

  • 2

    • Y diweddaraf ynghylch sefyllfa'r Coronafirws

      Mae'r Coleg yn monitro gwefannau Llywodraeth y DU a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn barhaus ac yn dilyn eu cyngor. Bydd unrhyw ddiweddariadau neu gamau sydd eu hangen yn cael eu cyfleu ar unwaith i bawb dan sylw. Ar hyn o bryd mae'r risg o ddal y coronafirws yng Nghymru yn isel.

       

      O ran ymweliadau addysgol sydd wedi'u trefnu dros yr ychydig wythnosau nesaf, rydym unwaith eto'n monitro'r sefyllfa a byddwn yn dilyn cyngor gan Lywodraeth y DU ac asiantaethau eraill. Os bydd unrhyw newid yn y canllawiau hyn, yna darperir y wybodaeth ddiweddaraf i chi.

      Update regarding Coronavirus situation

       

      The College is continually monitoring the UK Government and Public Health Wales websites and following their advice. Any updates or actions required will be communicated immediately to all concerned. At present the risk of catching the coronavirus in Wales is low.

       

      With regards to educational visits scheduled over the next couple of weeks, we are again monitoring the situation and will follow advice from the UK Government and other agencies. If there is any change to this guidance, then up dates will be provided.

  • 3