|
Mae gennych wythnos ar ôl i enwebu!
TU ÔL I BAWB SY’N LLWYDDO MEWN ADDYSG OEDOLION MAE TIWTOR NEU MENTOR SY’N YSBRYDOLI
Mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gynnal y Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru unwaith eto eleni.
Croesawn enwebiadau o bob rhan o Gymru ar gyfer tiwtoriaid a mentoriaid rhagorol y mae eu hymrwymiad, gwybodaeth a sgiliau wedi rhoi anogaeth i oedolion sy'n ddysgwyr i gyflawni eu hamcanion a'u breuddwydion a'r hyder iddynt drawsnewid eu bywydau.
Cliciwch yma i ddarllen straeon enillwyr Gwobrau Ysbrydoli Tiwtoriaid 2017
Bydd tiwtoriaid yn dangos eu hymrwymiad i fynd yr ail filltir i helpu oedolion sy'n ddysgwyr i gyflawni eu potensial.
Rydym yn edrych am diwtoriaid a mentoriaid o'r gosodiadau dilynol:
- Addysg Uwch
- Addysg Bellach
- Gosodiad Gweithle
- Addysg Gymunedol
- Cymraeg i Oedolion
- Ysgol neu osodiad arall
Sut i anfon eich ffurflen enwebu:
Gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen enwebu a'r canllawiau o'n gwefan.
Anfonwch eich enwebiadau erbyn dydd Llun 22 Hydref os gwelwch yn dda.
Gallwch e-bostio eich ffurflen enwebu at inspire@learningandwork.org.uk neu ei hanfon drwy'r post i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, 35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB
Os ydych angen unrhyw gymorth gyda'ch enwebiad, cysylltwch â inspire@learningandwork.org.uk os gwelwch yn dda.
Lledaenwch y gair: Rydym wedi paratoi e-daflen i hyrwyddo enwebiadau ar gyfer Gwobrau Tiwtoriaid a byddem yn ddiolchgar pe medrech gylchredeg hyn ymysg eich rhwydweithiau a rhannu hyn ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i annog eraill i enwebu. Dyma'r ddolen i'n e-daflen bit.ly/TutorAwardsFlyerCym
Yr hashnod ar gyfer y gwobrau yw: #GwobrauTiwtoriaidCymru18
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiadau.
|